Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Sadwrn Ionawr 14, 2023

Mae Deborah Glenister yn aml-offerynydd (sacsoffon, piano, clarinét a ffliwt). Graddiodd mewn Astudiaethau Jazz o Goleg Cerdd Leeds ac mae wedi chwarae mewn lleoliadau clasurol ond roedd sefydlu cribos jazz a bandiau miwsig yr enaid yn fwy o hwyl. Ar ôl cwblhau ei gradd, chwaraeodd gyda Band Mawr y Constellation, Band Mawr Steve Price, Amy Sinha, Kitty Bs Little Big Band, The Saxalettes, fel gwestai gyda Bluesy Susie a gyda Ruth Bowen. Bu hefyd yn perfformio'n helaeth gyda Jazz Heritage Wales yn eu triawd, eu pedwarawd, eu pumawd a'u sioe Before Freedom, a hi oedd cyfarwyddwraig cerdd a threfnydd i'w band swing Women in Jazz Allstars. Yn fwyaf diweddar mae hi wedi mwynhau perfformio gyda Rod Paton, Chris Hodgkins a James Chadwick yn Aberhonddu, Deborah Hancock ym Mhonthir a thriawd dan arweiniad y drymiwr jazz poblogaidd Dewi Davies, The Jazzy Ting Trio. Mae hi wedi mwynhau Mae hi'n mwynhau rhyddid a hyblygrwydd jazz i allu perfformio gyda llawer o wahanol bobl ac mae'n gyffrous i weld lle mae ei thaith jazz yn mynd â hi. Ymhlith y dylanwadau mae Scott Hamilton, Bill Evans, Count Basie a Sonny Rollins. Pan nad yw hi'n perfformio jazz, mae Deborah yn dysgu gwersi cerddoriaeth offerynnol un-i-un gartref ac ar-lein ac yn perfformio mwy o gerddoriaeth fasnachol gyda band Roc a Miwsig yr Enaid.

Facebook: DebGlenistermusic

YouTube: @DeborahGlenister

Twitter: @Debglenister

Instagram: glenisterdeborah

www.deborahglenister.co.uk   YouTube: @DeborahGlenister

Menywod yn y byd Jazz

^
cyWelsh