
Gwybodaeth Archebu
Mae gwaith adnewyddu sylweddol yn y theatr a bydd yn dal i fod ar gau tan ganol 2022.
Trefnir rhai digwyddiadau mewn safleoedd eraill yn ystod y cyfnod y bydd y theatr ar gau – cadwch olwg ar y wefan i gael manylion.
Sut i archebu
Dewiswch eich seddi ac archebu tocynnau drwy ein swyddfa docynnau ar-lein ar y wefan ar unrhyw amser.
Y Swyddfa Docynnau
Amserau agor presennol:
Dyddiau Mawrth 10am - 2pm
Dyddiau Mercher 10am – 2pm
Dyddiau Gwener 10am – 2pm
Ffôn:
01873 850805
E-bost:
mailto:boxofficeboroughtheatre@monmouthshire.gov.uk
Rydym yn gweithredu gyda llai o staff a gyda oriau cyfyngedig ar hyn o bryd.
Systemau Dim Tocynnau a Thalu gyda Cherdyn ac Ar-lein.
Dim ond taliadau cerdyn ac ar-lein a dderbyniwn ar hyn o bryd a rydym yn gweithredu system dim tocynnau.
Gallwch argraffu eich tocyn adref neu ddod â’ch ffôn symudol i ddangos eich tocyn.
Cadw seddi
Gellir cadw seddi ar gyfer rhai digwyddiadau hyd at 7 diwrnod neu 1 diwrnod cyn y digwyddiad. Os yw tocynnau ar gyfer sioe yn gwerthu’n gyflym neu wedi eu gwerthu i gyd, rydym yn cadw’r hawl i ostwng pa mor hir y gellir cadw seddi.
Caiff seddi eu rhyddhau’n awtomatig i gael eu hailwerthu ar ôl y dyddiad dod i ben.
Canslo
Mae gwaith adnewyddu sylweddol yn mynd rhagddo yn y theatr felly cafodd y digwyddiadau a gafodd eu canslo oherwydd Covid-19 eu symud i 2022. Byddwn yn gynnig ad-daliad llawn i chi os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus.
Dychwelyd Tocynnau
Gellir cyfnewid tocynnau nad ydych eu heisiau am daleb credyd. Mae’n rhaid i docynnau a argraffwyd gael eu cyflwyno o leiaf 48 awr cyn y perfformiad. Codir tâl o £2.50 fesul trafodiad.
Pe caiff yr holl docynnau ar gyfer sioe eu gwerthu – efallai y bydd yn bosibl i ni ailwerthu tocynnau nad ydych eu heisiau. Mae’n rhaid gwerthu pob sedd ymlaen llaw ac ni allwn warantu ailwerthu. Codir tâl o £2.50 fesul trafodiad.
Gostyngiadau a Chonsensiynau
Mae cyfraddau consensiwn ar gael mewn rhai digwyddiadau.
Gweler Hynt am fanylion tocynnau am ddim i gydymaith. Fel arfer ni chodir tâl mynediad ar faban mewn breichiau (dan 2 oed) ond ni caiff sedd ei dyrannu iddynt.
Archebion Grŵp
Mae cyfraddau is ar gael ar gyfer partïon o 10 neu fwy mewn digwyddiadau dethol. Caiff y gostyngiad hwn ei weithredu’n awtomatig wrth archebu 10 sedd neu fwy ar-lein.
Hygyrchedd
Gofynnir i chi hysbysebu staff y swyddfa docynnau pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig a byddwn yn hapus i helpu.
Mae mynediad i theatr drwy lifft o flaen yr adeilad. Mae cyfleusterau toiled i’r anabl yn yr adeilad ac mae lleoedd i gadair olwyn ar gael yn yr awditoriwm.
Hynt
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i wneud pethau’n glir a chyson mewn polisi tocynnau teg a hygyrchedd.
Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim ar gyfer cynorthwyydd personol neu ofalwr yn Theatr y Borough a’r holl theatrau a chanolfannau celfyddydau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.
Mae amrywiaeth o wybodaeth am y cynllun a sut i ymuno ar gael ar wefan Hynt.
Dalier sylw os gwelwch yn dda:
Mae’n rhaid i blant sy’n mynychu’r theatr fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Gofynnwn yn garedig i chi droi eich ffôn symudol a dyfeisiau i ffwrdd yn ystod y perfformiadau.
Ni chaniateir defnyddio camerâu ac offer recordio yn yr awditoriwm.
Cliciwch yma i gael ein telerau ac amodau llawn.