Gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r opsiynau islaw.
Gwybodaeth Archebu
Rhif Ffôn y Swyddfa Docynnau 01873 850805 (AR GAU AR HYN O BRYD) Gallwch adael neges a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod i’ch neges. Gofynnir am eich amynedd gan fod staff a mynediad yn gyfyngedig.
Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor ar ddyddiau Mawrth – Sadwrn 9:30am – 3pm ac awr a hanner cyn pob perfformiad (AR GAU AR HYN O BRYD).
Dychwelyd Tocynnau
Gellir cyfnewid tocynnau nad oes eu heisiau am daleb credyd ac mae’n rhaid eu dychwelyd o leiaf 24 awr cyn y perfformiad. Nid yw’r cyfleuster hwn ar gael ar gyfer digwyddiadau lle cafodd y theatr ei logi. Ffioedd yn weithredol.
Gallwch anfon e-bost atom
Cliciwch ar y cyfeiriad e-bost islaw
mailto:boxofficeboroughtheatre@monmouthshire.gov.uk
neu lenwi’r ffurflen islaw
Ar-lein
Cliciwch yma. i weld digwyddiadau a phrynu tocynnau
Wyneb yn Wyneb
Galwch heibio ein Swyddfa Docynnau ar Stryd Groes. (AR GAU AR HYN O BRYD)
Dros y Ffôn
Ffôn 01873 850805
Gallwch dalu ar unwaith yn defnyddio y prif gardiau credyd a debyd. Gellir anfon tocynnau’n uniongyrchol at eich cartref am ffi o 80c ar gyfer cost postio a dosbarthu, neu eu cadw i chi yn y Swyddfa Docynnau.
Neu drwy’r Post:
Swyddfa Docynnau, Borough Theatre, Stryd Groes, Y Fenni NP7 5HD
Anfonwch eich gofynion tocynnau atom yn nodi:
eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod y dydd; enw, dyddiad ac amser y perfformiad; a nifer y tocynnau rydych eu hangen, yn cynnwys unrhyw gonsesiynau
Amgaewch eich siec, taladwy i Gyngor Sir Fynwy a chynnwys amlen gyda’ch cyfeiriad a stamp arni ar gyfer dychwelyd eich tocynnau, neu cedwir eich tocynnau i chi yn y Swyddfa Docynnau.
Gellir cadw archebion ar gyfer hyd at 8 diwrnod ar gyfer y rhan fwyaf o sioeau, holwch aelod o Dîm y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.
Caiff archebion nas cesglir eu rhyddhau i’w hailwerthu ar fore’r digwyddiad.
Mae’n flin gennym roi gwybod i chi bod Theatr y Fwrdeistref, y Fenni yn parhau i fod ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan ein bod yn gweithredu gyda gweithlu llai ar hyn o bryd ac mae gennym fynediad cyfyngedig i’n systemau swyddfa docynnau.
Os oes angen cymorth brys arnoch, e-bostiwch boxofficeboroughtheatre@monmouthshire.gov.uk gan ein bod yn ei wirio o bryd i’w gilydd.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl eto’n fuan iawn i Borough Theatre, y Fenni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn unol â chyngor diweddar y llywodraeth, rydym am wneud ein gorau glas i sicrhau iechyd a diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff, perfformwyr a’r gymuned ehangach.
Fel y rhan fwyaf o wefannau, defnyddiwn gwcis ar ein safle i wella’r profiad i ddefnyddwyr. r. Cliciwch yma. i gael gwybodaeth am sut y maent yn gweithio ar wefan Borough Theatre.
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau unrhyw amser drwy glicio ar yr eiconau ar waelod y dudalen hon.
Mandatory – can not be deselected. Necessary cookies help make a website usable by enabling basic functions like page navigation and access to secure areas of the website. The website cannot function properly without these cookies.