Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Sul Ebrill 16, 2023

Our colleagues at Carmarthen Theatres are looking for a welsh speaker for the tour of Golygfeydd o’r Pla Du which is coming to the Borough Theatre in May.

Gweithredwr Sibrwd

Rydym yn chwilio am unigolyn i weithredu'n ap mynediad Sibrwd ar daith.

Mae Sibrwd yn ap mynediad wedi ei ddatblygu gan Galactig a Theatr Genedlaethol Cymru sy'n sicrhau mynediad i'r perfformiad beth bynnag fo'ch lefel o Gymraeg. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r ap, ewch i: https://theatr.cymru/en/the-company/sibrwd/

Bydd gofyn i chi ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol:

  • Mewnbynnu ciwiau Sibrwd i mewn i feddalwedd Sibrwd.
  • Golygu'r ciwiau yn ystod ymarferion technegol ar y cyd â'r Cyfarwyddwr
  • Sefydlu system Sibrwd ym mhob lleoliad ar daith
  • Gweithredu Sibrwd â llaw yn ystod pob perfformiad
  • Mynd i’r afael â dyletswyddau Blaen Tŷ, gan sicrhau bod aelodau'r gynulleidfa'n glir ac yn gyfforddus wrth lawrlwytho a defnyddio'r ap yn ogystal â chyfarwyddo ar ei ddefnydd.

Nid yw profiad blaenorol o Sibrwd yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant ar feddalwedd Sibrwd yn cael ei gynnal.

Mae’r gallu i deithio o amgylch y canolfannau rydym yn teithio iddynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Ffi:

  • Yn ystod yr ymarferion: 6 diwrnod o baratoi rhwng 11fed Ebrill – 4ydd Mai 2023 yn Ffwrnes, Llanelli @ £150 y dydd.
  • Ar daith: 13 diwrnod o berfformiadau rhwng 5ed – 26ain Mai 2023 @ £100 y dydd.(manylion y daith yma))

Darperir llety a chynhaliaeth ar gyfer rhai dyddiadau teithio, a bydd costau teithio yn cael eu had-dalu

I wneud cais, anfonwch ebost yn mynegi eich diddordeb i Sharon Casey

SECasey@carmarthenshire.gov.uk

^
cyWelsh