Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Mercher Mai 12, 2021

Fel y gwyddoch efallai, mae gwaith ailwampio hirddisgwyliedig ar fin dechrau yn y theatr. Fodd bynnag, mae cymhlethdodau’r pandemig a lleoliad mewn adeilad Victoraidd wedi ei restru wedi achosi oedi gan orfodi’r theatr i barhau ar gau am weddill eleni.

Bydd y theatr ar ei newydd wedd yn cyrraedd safonau cyfoes gyda seddi newydd, mynediad gwell, gwell cyfleusterau technegol a systemau oeri a gwresogi fydd yn dod ag awyr iach i mewn i’r awditoriwm.

Mae’r holl dîm sy’n gweithio ar y cynllun yn gwybod am effaith symud rhaglen a gweithgaredd y theatr ond ein blaenoriaeth bennaf oll yw sicrhau y caiff y gwaith ei wneud yn iawn a sicrhau ein bod yn hollol ddiogel a hygyrch i bawb pan fedrwn ailagor ein drysau.

Mae hyn yn golygu ei fod yn ddisgwyliad mwy realistig ar hyn o bryd i agor eto yn rhan gyntaf 2022. Disgwyliwn i’r diwydiant adloniant fod yn ôl i’w arfer erbyn hynny.

Yn y cyfamser byddwn yn cynllunio rhai digwyddiadau a gweithgareddau tu allan i’r theatr, gan weithio mewn partneriaethau gyda phobl greadigol, dalentog a dyfeisgar sy’n gwneud ein theatr hoff yn gymaint mwy na dim ond adeilad.

Daliwch ati i edrych ar ein gwefan a safleoedd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf

^
cyWelsh