Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Mercher Gorffennaf 7, 2021

Pryd fydd Borough Theatre yn ailagor?

Disgwyliwn ailagor ganol 2022 yn dilyn rhaglen adnewyddu fawr £1M i ddod â’r adeilad rhestredig eiconig i fyny at safonau theatr modern.

 

Pam ei fod yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl?

Yn dilyn gwaith dylunio ac arolwg manwl, a ddatgelodd gostau ychwanegol nas rhagwelwyd, cafodd tendrau eu derbyn erbyn hyn a dynodwyd bwlch cyllid o tua £750K. Mae cynnydd mewn costau adeiladu a achoswyd gan broblemau cadwyni cyflenwi fel canlyniad i’r pandemig wedi cyfrannu at hynny.

 

Felly beth sy’n digwydd yn awr?

 

Mae’r cyngor yn parhau’n hollol ymroddedig i’r prosiect ac yn awyddus i wneud iddo ddigwydd felly bydd yn ymchwilio opsiynau i lenwi’r bwlch cyllido dros y cyfnod nesaf. Dangosodd trafodaethau gyda’r rhai a gyflwynodd dendr fod cyfnod adeiladu o 30 wythnos yn ddull synhwyrol ac effeithlon ar gyfer ein prosiect ond wrth gwrs ni all hyn ddechrau nes byddwn wedi dynodi’r cyllid.

 

Beth am y sioeau oedd ar y gweill?

 

Mae’n amlwg bydd hyn yn gwthio ein hagoriad yn ôl i ganol 2022 a gwerthfawrogwn y bydd hyn yn effeithio ar sioeau a gafodd eisoes eu symud i ddechrau 2022 a lle bu cwsmeriaid teyrngar yn cadw eu tocynnau’n amyneddgar ar eu cyfer. Byddwn yn trafod yr opsiynau gyda’r hyrwyddwyr i weld pa sioeau y byddai’n gall eu symud yn y calendr ac os oes opsiynau ar gyfer lleoliadau eraill yn y Fenni i gynnal sioeau eraill.

 

Byddwn wedyn yn cysylltu gyda chwsmeriaid i adael iddynt wybod beth yw eu hopsiynau.

 

Sut y gallaf noddi neu gyfrannu at y theatr?

 

Cysylltwch â ni! Rydym yn llunio opsiynau ar gyfer rhoddion unigol a byddwn yn lansio ein cynllun “Enwi sedd” yn y dyfodol agos. Gallwch gael mynediad i hyn drwy ein gwefan a’r Swyddfa Docynnau pan fydd yn ail-agor ddiwedd mis Gorffennaf.

 

A yw’r theatr yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau unrhyw le yn y cyfamser?

 

Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau awyr agored a digwyddiadau mewn lleoedd eraill lle mae hynny’n ymarferol a hyfyw a bydd y rhain ar werth yn y ffordd arferol yn ein swyddfa docynnau.

^
cyWelsh