Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Mawrth Ebrill 20, 2021

Theatr na nOg logo

Gwarchod y Gwenyn - y Podlediad

Gyda dyfodiad tymor y gwanwyn, mae holl fywyd y byd natur yn dihuno ar ôl gaeaf hir, oer a thywyll yn cynnwys ein ffrind y wenynen Bron. Ymunwch gyda hi a'i gwesteion arbennig mewn podlediad newydd sbon ar eu hantur i'r byd lliwgar y blodau gwyllt.

Gwestai cyntaf Bron yw ei hen ffrind Byrti y wenynen. Ni'n cwrdd ag ef yn gorfod gweithio'n galed iawn yng nghwch gwenyn Nant y Ddol. Byddai'n well gen Byrti dreulio'i amser yn peillio'r blodau gwyllt yng Nghoedwig Sŵn yr Awel.

Mae'n penderfynu ffoi o'r cwch gan roi ei ffrind Bron a'r holl gwch mewn perygl. Nawr yw'r amser i Byrti fod yn ddewr. Beth byth yn digwydd nesa? Pwy yw'r Pry Cop rhyfeddol? Bydd Byrti'n llwyddo i achub ei ffrindiau? Cewch wybod hyn a mwy wrth wrando ar "Gwarchod y Gwenyn - y Podlediad”

^
cyWelsh