Skip to content

Spooky Men's Chorale

29 Gorf 2024

Mor daranllyd â gyr o wildebeest, mor gyfrwys â llond trol o Spike Milligan, ac mor soniarus â chlasordy o fynachod, mae’r Spoky Men’s Chorale yn rhodd sy’n dal i roi. 
Daethant i’r amlwg yn y Mynyddoedd Glas yn Ne Cymru Newydd yn 2001, a gyda dim mwy na’u lleisiau, dawn dweud a set o hetiau ddim yn cyd-fynd, buont yn tarfu’n llawn ar gynuylleidfaoedd ym mhobman ers hynny. 

Wedi’u ffurfio gan Stephen Taberner, yr ysbrydfeister o Seland Newydd, denodd y Spoky Men sylw i’w hyunain gyda chyfuniad dethol o ganeuon bwrdd o Georgia, baledi hardd, eu fersiynau digywilydd eu hunain o hen ganeuon a llwyth o ganeuon gwreiddiol sy’n dathlu’r “bwff” a hefyd yn gwneud hwyl am ei ben. 

“Theatridd tu hwnt, maent yn amrywio o’r od i deimladwy ac yn ôl eto. Adloniant i oedolion yn y ffordd orau, fwyaf plentynnaidd. Peiddiwch â cholli’r cyfle i’w gweld” – Daily Telegraph.

Pris Tocyn:

Un Pris: £25.00

Pris Tocyn:

Un Pris: £25.00
Mon
29
Gorf

Borough Theatre

^
cyWelsh