Diweddariad Mawrth
Ailagor
Ar ddechrau’r prosiect hwn, fe wnaethom gynnal ymchwiliadau a ‘stripio mas’ er mwyn dadrisgio cymaint ag oedd modd ar y rhaglen cyn dechrau gwaith. Roedd y gweithiau hyn yn fanwl ond roedd y gwaith ymwthiol y gellid ei wneud yn gyfyngedig er mwyn cadw iechyd a diogelwch ac integriti strwythurol y gofod cyn sicrhau prif gontractwr. Fel y gellid disgwyl gydag adeiladau hŷn, pan ddechreuodd y contractwr y gwaith dynodwyd elfennau strwythurol pellach oedd angen cael eu hailgynllunio a’u caffael.
Her arall yr ydym ni a’r diwydiant yn ei hwynebu ar hyn o bryd yw argaeledd deunyddiau ac isgontractwyr.
Fel canlyniad, bu’n rhaid i ni edrych eto ar ein rhaglen a rydym yn awr yn bwriadu cynnal y sioe gyhoeddus gyntaf ddiwedd mis Hydref. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r rhaglen yn wythnosol drwy gydol y prosiect ac er ein bod yn hyderus y gellir cyflawni’r dyletswyddau diwygiedig, byddwn yn diweddaru rhanddeiliaid am unrhyw newidiadau ar y cyfle cynharaf. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau a chynhyrchwyr gyda chynyrchiadau a digwyddiadau penodol yn y cyfnod agoriadol i sicrhau fod popeth yn barod i fynd ac y bydd ‘Popeth yn Iawn ar y Noswaith’.
Cerrig Milltir
The demolition and bricklaying work has proceeded well and much of the steelwork is now in place to support the sound/light corridors, access to the wire tension grid and the to carry the plant for the air heating/cooling unit. Major monthly milestones are as follows.
Pydew’r Gerddorfa
Rydym wedi cwblhau’r trefniadau ar gyfer pydew’r gerddorfa ar ôl ymdopi gyda llawer o anghenion a blaenoriaethau. Mae dau gyfluniad, un yn ddewis canol yn unig a’r llall yn ganol ac ochr.
Fe wnaeth yr hen system o godi paneli yn y llawr i ostwng y cerddorion gan 200m achosi nifer fawr o anawsterau gweithredol, pryderon am ddiogelwch a pheryglon posibl.
Ar ôl edrych ar y llinell olwg newydd, daeth yn glir oherwydd bod y gynulleidfa yn uwch nad oedd angen gostwng y band erbyn hyn ac felly caiff pyst a bafflsy’n clicio i’w lle i ddiffinio ardal ar gyfer y band o fewn y band.
Bu cydbwyso anghenion mynediad/gadael, gofod ar gyfer cerddorion ac offer a gofodau addas i gadeiriau olwyn yn y tu blaen yn heriol ond mae’r datrysiad a gyflwynwyd yn darparu ar gyfer yr holl angheion hyn. Mae hefyd yn rhoi pydew dyfnach yn y canol ac yn nodi gofod tuag yr ochr.
Rydym wedi dynodi mathau newydd o seddi ar gyfer y band sy’n deneuach ac yn fwy addas ar gyfer eistedd arnynt tra’n chwarae offeryn a fydd yn gwneud defnydd gwell o’r gofod.
Mae’r rhediad cebl newydd a’r maglau yn golygu y gallwn gael ceblau sain a phŵer i’r cerddorion lle bynnag y maent yn y pydew gyda llai o beryglon baglu a llanastr. Gallwn hefyd gwrdd â gofynion pŵer a D.I. ar gyfer cerddorion.
Bydd defnyddio offerynnau digidol megis allweddfyrddau yn helpu o ran gofod a hefyd y gallu i gymysgu a rheoli’r sain.
Prosiect Celfyddydau Ieuenctid Mae’r Dyfodol Nawr
Mae’r prosiect hwn ar y cyd rhwng Theatr y Borough, Canolfan Gelfyddydau Melville a Dance Blast a gyllidwyd drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal sesiynau creadigol ar gyfer pobl ifanc 10-24 oed. Dros dymor yr Haf rydym yn creu perfformiad rhyngddisgyblaeth a chyfres o weithdai, digwyddiadau a fforymau dan y teitl ‘A Seat at the Table’. Mae grŵp theatr ieuenctid yn rhedeg yng Nghanolfan Melville fydd yn datblygu’r deunydd gwreiddiol.