Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Iau Ionawr 27, 2022

Diweddariad Ionawr

Croeso i’n diweddariadau ar gynnydd ein gwaith adnewyddu cyffrous gwerth £1.04 miliwn yn Borough Theatre.

Ymrwymiad sicr i gyllid.

Fel y gallwch ddychmygu, canolbwyntiodd y rhan fwyaf o’n hymdrechion tua diwedd y llynedd ar sicrhau’r cyllid i ganiatáu i’r gwaith adnewyddu symud ymlaen. . Rydym wedi nodi’r cyllid ar gyfer y gwaith adnewyddu, ac fe gafodd ei gymeradwyo gan y cyngor llawn.

Daw’r rhan fwyaf o’r cyllid o gyllideb Cyfalaf Cyngor Sir Fynwy gyda chyllid ychwanegol gan gyllidebau Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a chyllidebau Trawsnewid Trefi a Mynediad i Bawb Sir Fynwy a chymorth gan Gyngor Tref y Fenni.

Prif gontractwr wedi'i benodi.

Mae GKR wedi'i gyflogi fel y prif gontractwr. Gwnaeth y cwmni rywfaint o waith rhagarweiniol cyn y Nadolig cyn dechrau'n llawn ar Ionawr 4ydd. Gwnaed y trefniant hwn ymhlith pethau eraill i leihau'r effaith ar y farchnad adeg y Nadolig. Mae’r gweithwyr wedi agor y gofod ac ar hyn o bryd yn paratoi i osod y peiriant ar gyfer y system wresogi ac oeri newydd.

Swyddfa Docynnau’r Fenni.

Rydym wedi bod yn datblygu ein cynnig i werthu tocynnau ar-lein ac yn bersonol ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau eraill yng ngogledd Sir Fynwy ac wedi gwneud hynny ar gyfer nifer o grwpiau. Wrth i hyn ddatblygu byddwn yn gallu cynnig mwy o gyfleusterau i grwpiau sy’n cyflwyno digwyddiadau yn Y Fenni a’r cyffiniau o gwmpas gwerthu tocynnau ac adrodd am y digwyddiadau.

Agoriad

 o bryd ac felly rydym yn hyderus y bydd dyddiad agor yn gynnar yn yr hydref 2022. Mae hyn yn rhoi amser i ni symud a hyfforddi ar ôl i'r gofod gael ei drosglwyddo'n ôl gan y contractwyr. .

Rydym yn cynllunio tymor yr Hydref ar gyfer pan fyddwn yn ailagor ac wrth gwrs mae gennym nifer o ddigwyddiadau a oedd wedi gorfod symud oherwydd y cloi cyntaf. Rydym ni’n meddwl bod gennym ni sioeau gwych ar y gweill ac edrychwn ymlaen at eu cyflwyno yn ein theatr newydd wych.

^
cyWelsh