Skip to content

Cadw at y cynllun, addasu i’r amgylchiadau

Mae’r ailwampio yn dod ag arferion peirianneg a strwythurol yr 21ain ganrif i gwrdd gyda thechnegau a dyfeisgarwch oes Victoria. Wrth i waith barhau ar y safle gallodd y tîm dynnu gorffenion a dangos mwy o rannau yn neilltuol, lle bydd strwythurau newydd yn ymuno gyda’r strwythur presennol Fictoraidd. Mae safle a lefel yr hen strwythurau hyn wedi amrywio ar draws y theatr ac wedi cadw pawb ar flaenau eu traed. Mae talent a sgiliau’r peirianwyr, dylunwyr ac adeiladwyr yn golygu bod y cynlluniau yn parhau er y bu’n rhaid i’r tîm ailgynllunio a gwneud rhai manylion cysylltu ychwanegol i weddu i bob sefyllfa. Bu asio a melino dur ar y safle yn rheidrwydd i sicrhau fod taro traed a neidio 21ain ganrif yn gydnaws gydag adeilad o oes Victoria.

Cyfarpar gwresogi ac oeri newydd

Bydd y system oeri a gwresogi newydd ar gyfer holl ofod y theatr yn rhoi amgylchedd cysurus ar gyfer perfformwyr a chynulleidfa fel ei gilydd. Mae cael offer soffistigedig i mewn i adeilad rhestredig Fictoraidd yn her ond mae hefyd yn rhaid i ni ei wneud mewn ffordd fel y gellir ei gynnal a’i gadw yn ddiogel ac yn rhwydd a hefyd yn rhoi mynediad digonol i’r grid mynediad tensiwn gwifr newydd o’r ystafell dechnegol.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer y darn hwn o wyddbwyll tri-dimensiwn ac mae’r blwch technegol wedi dechrau ar ei broses drawsnewid i adael i hyn ddigwydd.

Agor?

Rydym yn dal i fod ar gamau cynnar iawn y rhaglen adeiladu ac mae oedran a natur yr adeilad yn parhau i achosi problemau fel y disgwyliech. Ni allwn felly roi union ddyddiad agor ar y cam hwn fodd bynnag y pellaf y teithiwn, y mwyaf cywir y gallwn fod gyda’n hamserlenni a’n cerrig milltir a byddwn yn parhau i roi diweddariad fel mae cynnydd yn caniatáu.

Enwi sedd

Rydym wedi lansio ein cynllun Mabwysiadu Sedd!

Gallwch gael plac hyfryd ar un o’n seddi Balconi (Cylch) am 6 mlynedd am £350 neu 12 mlynedd i gydnabod cyfraniad i’r cynllun. Rydym wrth ein bodd gyda’r diddordeb a’r cyfraniadau a dderbyniwyd eisoes gan unigolion, sefydliadau a busnesau yn dilyn ein lansiad meddal. Byddwn yn hyrwyddo’r cynllun yn ehangach wrth i agoriad y theatr dynnu’n nes ac wrth i ni ddod yn llanwch o’r cyfnod clo. Yn y cyfamser os oes gennych ddiddordeb mewn enwi un o’r nifer cyfyngedig o safleoedd balconi mae manylion ar y wefan yma https://borough.ticketsolve.com/products/donation neu gallwch siarad gyda staff ein Swyddfa Docynnau ar 01873 850 805

Trefniadau llogi

Wrth i ni ystyried a datblygu ein cynnig llogi byddwn yn edrych sut y gallwn gynnig cyfraddau â gwasanaeth (llogi sych) ar gyfer defnyddio’r gofod heb y llwyfan yn y dyfodol. Bydd diogelwch a chynaliadwyedd bob amser yn flaenoriaeth ond wrth i ni ddechrau gweithredu eto yn yr hydref byddwn yn ymchwilio defnyddiau a dulliau newydd o ddefnyddio’r gofod.

 Swyddfa Docynnau y Fenni

Er bod llawer o ofal manwl, sylw a thrawsnewid yng ngofod Theatr ei hunan, mae’r celfyddydau a theatr yn y Fenni yn parhau i ffynnu mewn nifer o weddau a chynlluniau gan ein hatgoffa fod diwylliant yn ymwneud â phobl a syniadau nid adeiladau (er bod adeiladau celf o’r math diweddaraf a gwych yn bwysig!). Mae gan Borough Theatre system Swyddfa Docynnau ragorol a staff profiadol sy’n gwybod sut i’w defnyddio i’r budd mwyaf. Mewn lleoliad gwych yng nghanol y dref ac yn gartref i Ganolfan Croeso y Fenni, rydym mewn lle gwych i werthu tocynnau. Felly, rydym hefyd yn falch iawn i werthu tocynnau ar gyfer pobl eraill. Credwn ein bod yn cystadlu’n dda gyda Eventbrite, Ticket -Tailor a ticketsources.com y byd rhyngrwyd, gyda datrysiad lleol iawn lle gallwch wneud popeth a fynnwch ar-lein ac yn seiliedig ar e-docyn ond hefyd yr opsiwn y ffôn a pherson y pen arall. Rydym yn gwerthu mwy a mwy o docynnau i bobl eraill ac ymddengys yn iawn i ddefnyddio ein hadnoddau a’n harbenigedd i greu ychydig o hyb digwyddiadau yn y dref.

The Borough Theatre has a formidable Box Office system and experienced staff who know how to get the most out of it. Situated in a prime location in the centre of town and hosting the Abergavenny Tourist Information Centre, we’re in a great place to sell tickets. So, we’re also delighted to sell tickets for other people. We think we compete well with the Eventbrite, Ticket -Tailor and ticketsources.com of the internet world, with a very local solution where not only can you do everything online and e-ticket based but you also have the option of the phone and a person at the other end. We’re selling more and more tickets for other people, and it seems right to use our resources and expertise to create a bit of an events hub in the town.

^
cyWelsh