Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Llun Chwefror 3, 2020

Cyfleuster a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy yw Borough Theatre, Y Fenni, y cyfeirir ati o hyn allan fel "The Borough Theatre"

Mae'r amodau hyn yn berthnasol i bob sioe yn The Borough Theatre. Gall amodau ychwanegol fod yn berthnasol fel y cytunwyd rhwng The Borough Theatre a rheolwr / huriwr ar ymweliad. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn y man gwerthu. Rydym hefyd yn gwerthu tocynnau ar ran eraill a bydd ein hamodau'n berthnasol ar gyfer y gwerthiannau hyn oni nodir amodau ychwanegol neu amgen yn y man gwerthu.

1. Prynu tocyn.

    1. Drwy dderbyn eich archeb mae contract sy’n rhwymo’n gyfreithiol rhwng Borough Theatre a chi yn cael ei greu
    2. Bydd y contract rhwng Borough Theatre a chi yn cael ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth i ddatrys unrhyw anghydfodau.
    3. Wrth osod eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a roddwch i ni at ddibenion archebu, archebu neu brynu nwyddau neu wasanaethau, yn fanwl gywir, ac yn gwarantu mai chi sydd berchen y cerdyn credyd neu ddebyd rydych yn ei ddefnyddio a bod digon o arian ar gael i dalu cost y tocyn neu’r gwasanaeth.
    4. Os oes unrhyw newidiadau i’r manylion a ddarperir gennych chi, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwybod i ni.
    5. Mae pob tocyn yn amodol ar argaeledd.
    6. Ni chaiff y prynwr ailwerthu tocyn, ei gyfnewid, nac ad-dalu arian. Dim ond tocynnau a brynir drwy’n Swyddfa Docynnau neu drwy’n hasiantiaid cymeradwy sy’n ddilys i’w derbyn. Fe fyddwn yn canslo unrhyw docyn a ailwerthir neu a gynigir i’w ailwerthu gan y prynwr er budd masnachol a gwrthodir mynediad i ddeiliad y tocyn. Efallai y byddwn yn gwahardd unrhyw brynwr os yw'r prynwr yn ailwerthu neu'n cynnig ail-werthu unrhyw docyn trwy gyfleuster tocynnau eilaidd fel y'i diffinnir yn Neddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
    7. Mae’r rheolwyr yn cadw’r hawl, ar y cyd ag unrhyw ddatganiadau neu gyfarwyddebau eraill y gellid manylu arnynt yma, a ddangosir ar y tocyn neu fel y’u dangosir ar y safle i:
      1. Wrthod mynediad i’r adeilad i ddeiliad y tocyn
      2. Wrthod mynediad i unrhyw gamera neu unrhyw fath o gyfarpar all recordio sain neu fideo na’r defnydd ohonynt yn yr adeilad.
      3. Ofyn i ddeiliad y tocyn adael yr adeilad a chymryd unrhyw fesurau priodol i orfodi cais o’r fath.
      4. Fynnu bod pob aelod o’r gynulleidfa â thocyn dilys yn ei feddiant.
      5. Osgoi aflonyddu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, gwrthod mynediad i’r awditoriwm i hwyrddyfodiaid tan yr eiliad gaiff ei hystyried yn addas gan gynrychiolwyr rheolwyr y Theatr. Gallai fod yn bosibl dilyn y perfformiad ar deledu cylch cyfyng yn y bar
      6. Wneud unrhyw newidiadau yn y perfformiad/digwyddiad o ganlyniad i amgylchiadau na ellid bod wedi eu rhagweld na’u hosgoi.
      7. Newid neu amrywio’r perfformiad/digwyddiad o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth heb orfod ad-dalu arian neu newid tocynnau. Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau cast neu raglen os bydd angen.
      8. Ganslo neu roi’r gorau i’r perfformiad am resymau y tu hwnt i’w reolaeth heb rybudd a heb fod yn atebol i dalu unrhyw iawndal neu ddifrod o unrhyw fath i unrhyw berson heblaw, yn ôl doethineb y rheolwyr, ganran bosibl neu ad-daliad uchaf o werth wyneb y tocyn i’w ddeiliad.
      9. Awdurdodi ei staff i wrthod mynediad i’r lleoliad a chadw’r hawl i wneud hynny os yw’ch ymddygiad, yn eu barn bendant hwy, yn debygol o darfu neu aflonyddu ar bersonau eraill sy’n mynychu’r digwyddiad.
      10. Derfynu’ch caniatâd i fod yn yr adeilad a’ch symud.
    8. Ni fydd tocynnau wedi eu newid neu wedi eu difwyno yn ddilys.
    9. Nid yw cadarnhad eich bod wedi derbyn eich archeb drwy e-bost yn gwarantu gwerthiant y tocyn.
    10. Dylid gwirio tocynnau gan na ellir cywiro camgymeriadau bob amser.
    11. Byddwn yn cadw archebion am ddim mwy na 8 diwrnod ar gyfer y rhan fwyaf o sioeau yn amodol ar y trefniadau gyda’r llogwr neu hyrwyddwr.
    12. Dylai prynwyr tocynnau holi aelod o Dîm y Swyddfa Docynnau i gael eglurhad am y trefniadau ar gyfer archebion.
    13. Caiff archebion nas casglwyd eu rhyddhau i’w hail-werthu am 9:45 ar fore’r digwyddiad.

2. Gwybodaeth, disgwyliadau a chyhoeddusrwydd

  1. Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wybodaeth hyrwyddo yn gywir, fe’ch cynghorir i gymryd rhagofalon priodol i wirio gwybodaeth o’r fath.
  2. Mae Borough Theatre yn gwadu’n benodol yr holl atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir gan ddibyniaeth ar unrhyw ddatganiadau, unrhyw wybodaeth neu gyngor a gynhwysir yn neunydd ysgrifenedig Borough Theatre, ar y wefan neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo arall a gynhyrchir gan y sefydliad.
  3. Ni all Borough Theatre warantu y bydd eich disgwyliadau personol gan berfformiwr neu berfformiad yn cael eu cyflawni. Mae hyn oherwydd bod disgwyliadau a chwaeth bersonol yn ddiderfyn o amrywiol. Ymhellach, ni all Borough Theatre warantu na fydd iaith, ymddygiad nac ymddangosiad unrhyw berfformiwr yn eich tramgwyddo.
  4. Cynghorir chi i wneud ymholiadau cyffredinol yn y Swyddfa Docynnau cyn prynu tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur y perfformiad. Bydd polisi ad-daliad Borough Theatre yn berthnasol.
  5. Cynigir GOSTYNGIADAU I BLANT i bobl ifanc os ydynt yn dal yn yr ysgol. Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod argaeledd gostyngiad plentyn yn golygu y byddech chi’n gweld y sioe yn addas i bawb yn y categori hwn.
  6. Mae barn rhieni/gwarcheidwaid ynghylch yr hyn sy’n addas ar gyfer ystod oedran briodol yn amrywio’n sylweddol, mae’n rhaid i chi fodloni’ch hun ynghylch addasrwydd sioe drwy ymholi yn gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.
  7. e. Ni allai pob cynhyrchiad fod yn addas ar gyfer plant ifanc iawn neu fabanod. Gweler y canllawiau oedran ynghylch cynyrchiadau unigol. Os ydych yn dod â phlentyn ifanc iawn neu faban ac angen seddi penodol, a fyddech gystal â chysylltu â’n Swyddfa Docynnau am gymorth neu arweiniad pellach.
  8. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan trydydd parti ac ni fyddwn yn anrhydeddu unrhyw ostyngiadau neu gynigion eraill gan drydydd parti nad yw’n bresennol yn ei marchnata ei hun.

3. Polisi ad-dalu Borough Theatre

  1. Mae Borough Theatre yn gwerthfawrogi ymrwymiad ei noddwyr i archebu’n gynnar ac mae’n cydnabod bod argyfyngau weithiau’n atal presenoldeb. Mae’r ddau ddewis canlynol ar gael
    1. Cyfnewid
      1. 1. Gellid cyfnewid tocynnau am nodyn credyd neu unrhyw ddigwyddiad arall sydd ar werth ar y pryd am yr un pris neu’n uwch (ar ôl talu’r gwahaniaeth). Nid yw’r dewis hwn ar gael ar gyfer cyngherddau sydd wedi’u gwerthu allan, digwyddiadau lle mae’r theatr wedi’i hurio neu lle rydym yn nodi diwygiad i’r telerau a’r amodau hyn ar gyfer digwyddiad penodol yn y man gwerthu. Codir tâl am bob grŵp o docynnau sy’n cael eu hailwerthu. Manylir ar y taliadau hyn yn ein canllaw taliadauar y wefan ac yn ein swyddfa docynnau.
      2. Tickets must be received at the Box Office no later than 7 days before the original performance.
    2. Ailwerthu
      1. Fel dewis arall, derbynnir tocynnau i’w hailwerthu ar y ddealltwriaeth lem mai tocynnau The Borough Theatre fydd yn cael eu gwerthu yn gyntaf ac na ellir gwarantu eu hailwerthu.
      2. N i allwn ailwerthu tocynnau oni bai bod y rhai gwreiddiol yn cael eu dychwelyd gyntaf i’r swyddfa Docynnau. Codir tâl am bob grŵp o docynnau a ailwerthir. Manylir ar y taliadau hyn yn ein canllaw taliadauar y wefan ac yn ein swyddfa docynnau.

4. Eich ymweliad

  1. Efallai y bydd angen i ddeiliaid tocynnau â bagiau mawr eu gadael gyda’n tîm rheoli tai trwy gydol y sioe. Bydd ein tâl ystafell gotiau safonol yn berthnasol i’r holl eitemau a adewir.
  2. Dylid cyflwyno unrhyw gwynion ynghylch y sioe neu’r olygfa o’r seddi i oruchwyliwr y Tŷ yn brydlon, cyn neu yn ystod y perfformiad fel y gallant geisio datrys y sefyllfa.
  3. Arweinyddion grwpiau ieuenctid (gan gynnwys partïon ysgol) sy’n gyfrifol am ymddygiad eu parti. Nid yw Borough Theatre yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio pobl ifanc yn eich gofal. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod niferoedd digonol o staff goruchwylio yn dod gyda’r grŵp. Gofynnir i’r grŵp neu rai ohonynt adael y theatr os aflonyddir ar y perfformwyr neu’r gynulleidfa.
  4. Ni chaniateir ysmygu na defnyddio e-sigaréts yn Borough Theatre.
  5. Ffotograffiaeth, Ffilmio a Ffonau Symudol
    1. Mae Borough Theatre yn cadw’r hawl iddyn nhw eu hunain neu i drydydd parti wneud ffilmio cyffredinol neu recordio sain yn yr adeilad neu o’i gwmpas. Mae prynu tocyn yn dynodi cydsyniad y deiliad i gael ei lun wedi’i dynnu neu i fod yn rhan o recordio sain ac i gamddefnyddio ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl i daliad. Mae’n rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael ei lun wedi’i dynnu neu fod yn rhan o recordiad sain roi gwybod i oruchwyliwr y Tŷ cyn i’r perfformiad ddechrau.
    2. Mae’n rhaid diffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan ydych y tu mewn i’r awditoriwm. Yn yr un modd, mae’n rhaid i chi beidio â siarad i mewn i ffôn symudol tra rydych y tu mewn i'r awditoriwm neu gerllaw.
    3. Gwaherddir gwneud recordiadau a ffotograffiaeth, gyda neu heb fflach, yn llwyr. Os cafwyd cyfarwyddyd penodol bod croeso iddo a’i fod yn briodol yn y digwyddiad hwnnw, arddangosir hysbysiadau yn nodi hynny er y dylid tybio ei fod wedi’i wahardd. Mewn achosion lle rhoddwyd caniatâd penodol, mae’n rhaid i chi: -Dynnu lluniau neu ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unig os nad yw’n achosi ymyrraeth ac annifyrrwch i’r rheiny o’ch cwmpas.
      - Dynnu lluniau neu wneud ffilm fer o’r digwyddiad neu’ch parti yn unig ac nid y cyhoedd na phobl eraill nad ydych chi’n eu hadnabod.
      - Roi’r gorau i unrhyw ffilmio neu ddefnydd o ddyfais ar unwaith os gofynnir i chi gan aelod o staff y theatr neu gan eu cynrychiolwyr.
  6. Diodydd a bwyd yn yr awditoriwm.
    1. Mae Borough Theatre yn caniatáu i ddiodydd a brynir yn ein hadeilad gael eu cymryd i mewn i’r awditoriwm cyhyd â’u bod mewn cynwysyddion plastig neu gardbord.
    2. Rydym yn cadw’r hawl i’ oruchwyliwr y Tŷ ar ran rheolwyr y theatr, yn ôl eu doethineb, ddirymu caniatâd i fynd â diodydd i mewn i’r awditoriwm neu adran o’r awditoriwm ar unrhyw adeg.
    3. Ni ellir mynd ag unrhyw ddiodydd na bwyd na brynwyd yn yr adeilad i mewn i’r awditoriwm ac mae’r theatr yn cadw’r hawl i atafaelu unrhyw eitemau gwaharddedig.

5. Gwybodaeth Bersonol

    1. Pan fyddwch chi’n archebu tocynnau yn Borough Theatre fe fyddwch chi’n darparu rhywfaint o wybodaeth bersonol sylfaenol i ni er mwyn i ni brosesu’ch archeb a chysylltu â chi os oes unrhyw broblemau, newidiadau i’r trefniadau neu os oes angen i ni roi gwybodaeth i chi er mwyn cyflawni’n cytundeb gyda chi.
    2. Rydym yn casglu’r wybodaeth oddi wrthych chi’n uniongyrchol wrth i chi brynu’r tocynnau yn bersonol, neu’n anuniongyrchol trwy ein gwefan gwerthu tocynnau pan brynir tocynnau ar-lein. Rydym hefyd yn casglu’r wybodaeth yma oddi wrthych gyda’ch caniatâd pan fyddwch yn mynd ati i ymuno â'n rhestrau E-bost neu â’n cynlluniau ffrindiau.
    3. Cedwir eich gwybodaeth bersonol ar systemau ein Swyddfa Docynnau a’n systemau marchnata. Drwy wneud archeb rydych yn caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw yn unol â’r Deddfau Diogelu Data.
    4. Fe’i cedwir i’w defnyddio gyda dau fwriad:
      1. CONTRACT

        1. Mae’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni i brosesu’ch archeb yn cael ei chadw er mwyn:
          1. prosesu a chofnodi’ch taliad
          2. eich hysbysu os oes unrhyw beth yn newid mewn perthynas â’ch archeb – er enghraifft bod y perfformiad yn cael ei ganslo neu i ailgyflwyno tocyn a gollwyd.
          3. eich hysbysu os oes problem neu achos pryder yn ymwneud â’ch presenoldeb yn y digwyddiad.
        2. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon yn unig gyda’ch banc er mwyn prosesu’ch taliad, neu gydag unrhyw un arall os bydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
      2. CANIATÂD
        1. Ar adeg eich archeb byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth am gynyrchiadau a digwyddiadau sydd ar ddod drwy ymuno â’n rhestrau newyddion neu gynlluniau ffrindiau yn Borough Theatre. Byddwn yn defnyddio hyn gyda’ch caniatâd:
          1. I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynyrchiadau sydd ar ddod neu am ddatblygiadau yn Borough Theatre;
          2. b. I roi gwybodaeth am sefydliadau a enwir sy’n defnyddio’n swyddfa docynnau i werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau;
          3. Gofynnir i chi pa ddewisiadau sy’n dderbyniol gennych. Bydd hyn yn ein galluogi i brosesu’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’ch dymuniadau;
          4. Ni fyddwn yn rhannu’ch manylion gydag unrhyw un y tu hwnt i Borough Theatre at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn ychwaith yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i drydydd parti ac eithrio i hwyluso ein postio atoch chi;
          5. Byddwn yn cynnig i chi’r cyfle i optio allan o bostiadau yn y dyfodol ym mhob cyswllt, naill ai drwy e-bost neu drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau ar 01873 850 805
    5. Rheolir, cynhyrchir a gweithredir ein hysbysebion Swyddogol gan Borough Theatre o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw Borough Theatre yn cyflwyno achos bod y deunydd a’r wybodaeth a arddangosir ar ein gwefan neu’n hygyrch drwy gyfrwng ein gwefan yn briodol nac ar gael at eu defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu allan i’r DU.
  1. The Borough Theatre processes conform to the Data Protection Act 1998. Our full data protection policy is available yma.

Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021

^
cyWelsh