Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Mercher Gorffennaf 7, 2021

mccheaderlogo

Mae Cyngor Sir Fynwy yn galw ar breswylwyr, busnesau lleol a mynychwyr theatr i enwi sedd neu hyd yn oed noddi ardal bar newydd wrth i gynllun noddi gael ei lansio.

Daw hyn wrth i’r cyngor anelu i ailagor Theatr y Borough, lle mae rhaglen adnewyddu fawr ar y gweill am ar gost o £1m i ddod â’r adeilad rhestredig eiconig lan i safonau theatr modern.

Yn dilyn gwaith cynllunio ac arolwg manwl, a ddangosodd gostau ychwanegol annisgwyl, derbyniwyd tendrau a dynodwyd bwlch cyllid o tua £750k a waethygwyd gan gynnydd mewn costau adeiladau a achoswyd gan broblemau gyda chadwyni cyflenwi fel canlyniad i’r pandemig. Fodd bynnag, mae’r cyngor yn parhau’n hollol ymroddedig i’r prosiect ac yn awyddus i wneud iddo ddigwydd felly bydd yn ymchwilio opsiynau i lenwi’r bwlch cyllid yn ystod y cyfnod nesaf.

Bydd y cynllun noddi yn rhoi cyfle i breswylwyr, busnesau lleol a theatr-garwyr i fod yn rhan o ailwampio cyffrous ar y theatr eiconig, a fu’n ganolbwynt yn y Fenni am dros 150 mlynedd.

Gobeithir y bydd y theatr yn rhoi cyfleoedd hyrwyddo, cyfrifoldeb cymdeithasol a masnachol rhagorol ar gyfer busnesau sy’n cefnogi ac mae’r cyngor yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n dymuno trafod y syniadau a’r cyfleoedd. Nod y cynnig ‘mabwysiadu neu enwi sedd’ yw rhoi cyfle i noddwyr gael plac arbennig a neges arbennig ar sedd am nifer o flynyddoedd yn ôl am eu cyfraniad. Cafodd y ddau gynllun eu defnyddio’n eang mewn prosiectau adnewyddu theatrau ar draws Prydain a maent yn rhoi cyfle i bobl roi eu marc eu hunain ar yr hyn sy’n argoeli bod yn adnewyddiad hanesyddol. Yn y cyfamser, bydd y cyngor yn parhau i ymchwilio ymrwymiadau cyllido unigol a hirdymor.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am Theatr y Borough:

“Mae’r trafodaethau gyda’r rhai a gyflwynodd dendr wedi dangos bod gwaith adeiladu o 30 wythnos yn ffordd gall ac effeithlon i drin ein prosiect ond wrth gwrs ni all hyn ddechrau nes ein bod wedi dynodi’r cyllid. Mae’n amlwg y bydd hyn yn gohirio agor ymlaen i 2022 a gwerthfawrogwn y bydd hyn yn effeithio ar sioeau sydd eisoes wedi symud i ddechrau 2022 ac y bu cwsmeriaid teyrngar yn cadw eu tocynnau’n amyneddgar ar eu cyfer. Byddwn yn trafod yr opsiynau gyda’r hyrwyddwyr i weld pa sioeau y byddai’n gall eu symud yn y calendr ac os oes opsiynau ar gyfer safleoedd eraill yn y Fenni i gynnal sioeau eraill. Byddwn wedyn yn cysylltu gyda chwsmeriaid i adael iddynt wybod beth yw’r opsiynau.

“Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r effaith ar ein sioeau poblogaidd gan gymdeithasau. Byddwn wrth gwrs yn gweithio gyda ac yn cefnogi’r cymdeithasau hynny sy’n llogi’r safle yn rheolaidd i ganfod datrysiadau ymarferol i broblemau penodol am gynnal y perfformiad mewn mannau eraill yn y dref.

“Rydym yn neilltuol o awyddus bod pobl ifanc Sir Fynwy yn parhau i gael cyfleoedd celfyddydau perfformiad lle gallant ddysgu, creu ac ymchwilio mewn ffordd hwyliog a chadarnhaol. I ddangos ein hymrwymiad parhaus, rydym yn awyddus i agor sgyrsiau gydag unrhyw un sydd â diddordeb a all ddymuno buddsoddi yn un o’r safleoedd celfyddydau diwylliannol a drysorir fwyaf yn y Fenni.

“Mae Cyngor Tref y Fenni wedi cefnogi’r theatr ers amser maith a rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau ariannol nid yn unig i’r prosiect hwn ond hefyd i gynlluniau eraill y theatr. Rydym yn eu gweld fel partneriaid allweddol yn natblygiad a llwyddiant Theatr y Borough ac yn croesawu dialog barhaus gyda nhw am sut y gallwn gefnogi a thyfu Theatr y Borough gyda’n gilydd.

“Hefyd, os ydych yn rhannu ein hangerdd dros y Borough, ac os hoffech enwi sedd newydd neu hyd yn oed yn noddi’r bar newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”

Gall unrhyw berson neu fusnes sy’n dymuno noddi’r theatr neu drafod cyfleoedd nawdd wneud hynny drwy ymweld â: https://boroughtheatreabergavenny.co.uk/

 

 

^
cyWelsh