Skip to content
Cyhoeddwyd ar:: Dydd Sul Ionawr 23, 2022

Ni yw’r Dyfodol

Mae Ni yw’r Dyfodol yn brosiect ymchwil a datblygu uchelgeisiol yn seiliedig yn y Fenni a Gogledd Sir Fynwy. Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Theatr y Borough a Theatr Melville ac mae’n anelu cysylltu gyda a chrynhoi ysbryd creadigol pobl ifanc yn yr ardal. Drwy weithio partneriaeth a chonsortiwm, rydym eisiau rhoi pobl ifanc wrth ganol dyluniad a datblygiad y prosiect.

Bwriad y prosiect yw dod â ieuenctid Gogledd Sir Fynwy ynghyd i leisio eu safbwyntiau, i ddynodi’r profiadau a’r pryderon a rannant a gweithio ar syniadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect yn hyrwyddo perchnogaeth o farn/sylwadau unigol a rhannu creadigrwydd.

We are putting together a team to deliver this project and are recruiting freelance professionals/organisations for the following roles:

Sut i wneud cais:

Eich prif weithle fydd Canolfan Gelfyddydau Melville yn y Fenni a chyflwyno mewn hysgolion a lleoliadau cymunedol. Bydd y systemau gweinyddol a chefnogaeth sefydliadol drwy Theatr y Borough.

Darllenwch y disgrifiad swydd a’r fanyleb person islaw ac anfon eich CV a llythyr egluro yn dweud pam fod y rôl o ddiddordeb i chi a sut mae eich sgiliau’n cyfateb gyda’r hyn yr edrychwn amdano.

Cliciwch i ddarllen y proffiliau rôl:

Rheolwr Prosiect Cynorthwyol

Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu

Hwylusydd Creadigol

Briff y Gwerthuswr

Anfonwch bopeth at Gynhyrchydd y Prosiect: asa.malmsten@coachcreate.co.uk asa.malmsten@coachcreate.co.uk

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig i’ch galluogi i wneud cais am y rôl, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost at Gynhyrchydd y Prosiect: asa.malmsten@coachcreate.co.uk

^
cyWelsh