Celf yn y Bar
About The Artist
BRIAN WHEELER
Enillodd Brian ei blwyf fel artist tirlun. Cynhaliodd nifer o arddangosiadau unigol a grŵp ers iddo ddechrau paentio yn 1995.
Mae wedi addysgu celf am bron i 20 mlynedd, gan gynnal dosbarthiadau paentio ac arddangosiadau a gweithdai ymarferol i glybiau a chymdeithasau celf ledled De Cymru.
Mae Brian yn hoffi cyfleu naws ac awyrgylch, tra hefyd yn cadw mesur o realaeth yn ei holl waith.
Yn 2013 comisiynwyd Brian gan Syr Ray Tindle, sy’n flaenllaw ym myd radio a phapurau newydd, i greu paentiad ar gyfer EUB y Tywysog Charles, oedd yn Dywysog Cymru ar y pryd, i goffau ei ymweliad i’r Abergavenny Chronicle. Mae’r darn yn dangos Stryd Neville wlyb.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau peintiad diweddaraf Brian yn ein Celf yn y Bar newydd sbon.