Skip to content

Ar Log

26 Medi 2026

Gyda Gwesteion Arbennig Lowri Evans & Lee Mason

AR LOG YN DATHLU PEN-BLWYDD 50

Mae 2026 yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log. Go brin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai’r grŵp yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 pan ffurfiwyd Ar Log yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw nôl yn 1976. Ond, yn dilyn anogaeth gan y Dubliners ar ôl cyngerdd cyntaf y grŵp, mae Ar Log, erbyn hyn, wedi mynd â cherddoriaeth Cymru i dros ugain o wledydd ar dri chyfandir a nhw oedd y grŵp gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf.

Er mwyn dathlu’r garreg filltir hon mae Ar Log yn trefnu taith yng Nghymru a’r Almaen, ac yn rhyddhau albym newydd, Ar Log VIII, yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mi fydd gwesteion arbennig hefyd yn rhan o’r daith, ac yn y nosweithiau yn Galeri a Pontio mi fydd Dafydd Iwan yn perfformio gydag Ar Log am y tro olaf un. Dyma’r bartneriaeth oedd yn gyfrifol am y recordiad sydd bellach wedi dod yn ail anthem i Gymru, sef ‘Yma o Hyd’!


Pris Tocyn:

Full: £18.00
Booking FeeFfi Archebu: £1 lle bo'n berthnasol

Pris Tocyn:

Full: £18.00
Booking FeeFfi Archebu: £1 lle bo'n berthnasol
Sad
26
Medi

Borough Theatre

^
cyWelsh