Skip to content

Blazin' Fiddles

06 Mawrth 2025

Un o grwpiau enwocaf a mwyaf poblogaidd sîn gerddoriaeth yr Alban, mae Blazin’ Fiddles yn amlygu meistrolaeth tri o chwaraewyr ffidil penigamp o’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd - Jenna Reid (Shetland), Kristan Harvey (Orkney) a Rua Macmillan (Yr Ucheldiroedd) – ynghyd â chyfeiliant egnïol digymar Angus Lyon (piano) ac Anna Massie (gitâr). 

Am dros chwarter canrif, nid oes unrhyw fand arall wedi costrelu amrywiaeth, egni a sensitifrwydd cerddoriaeth ffidil yr Alban lawn gymaint â Blazin’ Fiddles. Ym mha neuadd bynnag – p’un ai Neuadd Albert neu neuadd bentref – byddant yn ei droi i’r hwtenani mwyaf bywiog a chynhesaf.

Pris Tocyn:

Full: £22.00
Ffi archebu: £1

Pris Tocyn:

Full: £22.00
Ffi archebu: £1
Iau
06
Mawrth

Borough Theatre

^
cyWelsh