Skip to content

O Little Town of Aberystwyth

04 Rhag 2024

“Plant yn canu, seiren yr heddlu yn seinio, cnau castan yn cael eu dwyn o dân plentyn amddifad ... a stryd gefn dywyll yn ardal Tsieineaidd un o’r siopau mawr ac mae Siôn Corn yn gorwedd yn gelain mewn pwll o’i waed ei hun – Aberystwyth adeg y Nadolig.” 


Mae Brenhines Denmarc yn cyflogi Louie Knight, yr unig dditectif preifat yng Ngheredigion. Dim ond pump diwrnod sydd ganddo ef a’i bartner ffyddlon Calamity i ddatrys yr achos – os nad yw’n llwyddo, ni fydd Nadolig, dim anrhegion i’r plant a dim cyngerdd i’r pengwyniaid sy’n hoffi canu carolau ... 
Yn dilyn llwyddiant Aberystwyth Mon Amour yn 2016, mae’r Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda’r perfformiad cyntaf ar lwyfan o nofel noir Gymreig arall gan Malcolm Price. 

Gyda Llinos Daniel yn cyfarwyddo a cherddoriaeth wreiddiol gan Kieran Bailey, mae hwn yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Pontardawe a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Pris Tocyn:

£15 (concessions £13)

Pris Tocyn:

£15 (concessions £13)
Mer
04
Rhag

Borough Theatre

^
cyWelsh